#

Deiseb: Gwelliannau i’r ddarpariaeth reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin
Y Pwyllgor Deisebau | 13 Medi 2016
 Petitions Committee | 13 September 2016
 

 

 

 

 


Papur Briffio:

Rhif y ddeiseb: P-5-689

Teitl y ddeiseb: Gwelliannau i’r ddarpariaeth reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin

Testun y ddeiseb: Mae Cydweli yn dref fywiog yn Sir Gaerfyrddin, gyda llawer o atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys cei sy'n edrych dros aber y Gwendraeth gydag adar a bywyd gwyllt prin, camlas Kymer, sef camlas hynaf Cymru ac amgueddfa Ddiwydiannol.

O ran demograffeg, mae gan Gydweli gyfran uwch na chyfartaledd Sir Gaerfyrddin o bobl sydd â salwch hirdymor cyfyngol a'r gyfran uchaf o bobl dros 45 oed yn y sir, yn ôl proffil adran etholiadol 2015 adran Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal mae llawer o bobl yn cymudo i'r gwaith neu ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i'r dref.

Materion.

1. Mae'r orsaf yn arhosfan ar gais, ac mae hyn yn achosi problemau, (a) nid yw ymwelwyr, twristiaid a thrigolion newydd yn deall bob amser bod angen iddynt roi arwydd i wneud i'r trên stopio, mae hyn yn golygu bod pobl yn amharod i ddefnyddio'r trenau ac mae hyn o bosibl yn cael effaith negyddol ar economi'r dref (b) ar drenau heb swyddog tocynnau ni all teithwyr llai abl yn gorfforol symud i lawr y trên at y gyrrwr, mae llawer o bobl yn poeni ac yn ofidus y byddant yn mynd heibio i'w harosfan a dywedwyd bod hynny wedi digwydd, (c) mae'n amlwg bod amser wedi'i gynnwys yn yr amserlen er mwyn caniatáu i'r trên stopio, gan y gellid gofyn am hyn ar bob taith, felly mae'r gofyniad o ran cais yn anacronistig ac yn ddiangen. Dylai'r orsaf fod yn arhosfan safonol ac nid yn arhosfan ar gais.

 2. Mae uchder y platfform ar y platfform tua'r gorllewin mor isel fel na all cadair olwyn na phobl â chymhorthion symudedd eraill fynd i mewn nac allan o'r trenau, hyd yn oed gyda system ramp symudol y trên. Mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth yn wahaniaethol o safbwynt cadeiriau olwyn a defnyddwyr eraill sy'n llai abl yn gorfforol.

3. Nid yw amlder y trenau sy'n gwasanaethu Cydweli yn ddigonol i gefnogi'r gymuned a'r niferoedd posibl o dwristiaid. Mae hyn yn cyfyngu ar deithiau cymdeithasol, masnachol a thwristiaeth, gan gael effaith negyddol ar les cymdeithasol ac economaidd y gymuned.

 

Cefndir

Seilwaith y Rheilffyrdd

Network Rail sy’n berchen ar y rhan fwyaf o seilwaith y rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr. Mae’n berchen ar oddeutu 2500 o orsafoedd rheilffordd ym Mhrydain Fawr. Fodd bynnag, mae pob gorsaf, heblaw am y 18 o’r rhai mwyaf a phrysuraf, yn cael ei rheoli gan Gwmnïau Trên fel rhan o’u masnachfraint. Rheolir gorsaf Cydweli gan Trenau Arriva Cymru (ATW).

Nid yw’r buddsoddiad yn seilwaith y rheilffyrdd wedi’i ddatganoli a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sy’n gyfrifol am y prif bwerau a dyletswyddau statudol. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau o dan Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (‘Deddf 2005’) i fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd.   

Gwasanaethau Rheilffordd

Nid yw masnachfreintiau rheilffyrdd wedi’u datganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o reoli masnachfraint Cymru a’r Gororau, gan gynnwys cyllido’r gwasanaethau o fewn Cymru (“gwasanaethau Cymru yn unig”), a’r rhai sy’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghymru (“gwasanaethau Cymru”).

Yn ogystal â’r buddsoddiad mewn seilwaith, mae Deddf 2005 yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau rheilffyrdd. Gallai hyn gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag arosiadau rheolaidd yng ngorsaf Cydweli. Fodd bynnag, mae’n werth nodi y bydd ychwanegu arosiadau rheolaidd ychwanegol at wasanaeth rheilffordd yn cael effaith ar yr amserlen a’r amseroedd teithio.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yn negodi datganoli pwerau gweithredol dros gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru  o 2018. Disgwylir i’r pwerau gael eu datganoli o 2017, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau paratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf (gweler isod).

Mynediad i Bobl Anabl a Rheilffyrdd

Fel y mae’r deisebwyr yn ei awgrymu, mae’r rheoleiddiwr rheilffyrdd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn ei gwneud yn ofynnol bod cwmnïau trenau a gorsafoedd yn llunio Polisi i Warchod Pobl Anabl ac yn cydymffurfio ag ef. Mae’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd wedi cyhoeddi canllaw ar lunio Polisïau i Amddiffyn Pobl Anabl (PDF672 KB).

Mae Adran 71B o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn llunio cod ymarfer ar safonau dylunio ar gyfer gorsafoedd trenau hygyrch. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf ar y cyd â Transport Scotland ym mis Mawrth 2015 ac mae’n berthnasol i bob cwmni trenau sy’n cludo pobl a gweithredwyr gorsafoedd ym Mhrydain Fawr. 

Nid yw’r cod hwn yn orfodol. Fodd bynnag, mae’r holl drwyddedau a gyflwynir i weithredwyr trenau a gorsafoedd gan y Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn cynnwys amod bod trwyddedwyr yn rhoi sylw digonol i’r Cod Ymarfer wrth lunio eu polisïau.

Mae cydymffurfio â’r gofynion trwyddedu yn fater i’r Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd, sydd hefyd yn gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â’r polisïau. Gellir gweld polisi ATW yma.

Sylwadau gan Gyngor Tref Cydweli

Mae Cyngor Tref Cydweli hefyd yn ystyried y mater yn ei Bwyllgor Dibenion Cyffredinol.  Mae cofnodion y cyfarfod ar 2 Mehefin 2015 yn nodi:

The number of train stops at Kidwelly station is inadequate, especially at times needed by commuters. Arriva trains have been requested to designate Kidwelly as a definite STOP station rather than a REQUEST STOP. Initiatives such as the RSPB Futurescapes Project and the development of the Gwendraeth Railway Project will attract passengers wishing to use Kidwelly Station. The response from Arriva Trains was negative. A response from Edwina Hart was also negative.

Mae cofnodion diweddarach yn nodi bod cyfarfod â Trenau Arriva Cymru wedi’i drefnu ar 5 Tachwedd 2015 ac, yn dilyn hyn, cyflwynodd Clerc y Dref sylwadau i ATW yn gofyn iddo ystyried gwneud Cydweli’n arhosfa reolaidd wrth baratoi ei amserlen newydd ar gyfer Mai 2016.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau Rheilffordd

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cwmpasu’r cyfnod 2015-2020, yn ogystal ag amcanion “tymor canolig” ar gyfer 2020 a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys nifer o gynlluniau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd, ac yn eu plith ceir cynigion ar gyfer amrywiaeth o ran amlder y gwasanaethau a gwelliannau eraill, ac ymrwymiad i “Adolygu y gwelliannau arfaethedig presennol i’r gwasanaeth” rhwng 2016-17 a 2018-19.

Mae’r cynllun hefyd yn nodi’r amcanion ar gyfer caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r diwydiant rheilffyrdd a rhanddeiliaid eraill ar ddatblygu’r fasnachfraint nesaf.

I ragflaenu datganoli’r pwerau dros wobrwyo’r fasnachfraint reilffyrdd nesaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus, Gosod y Trywydd ar gyfer Rheilffordd Cymru a’r Gororau, ym mis Ionawr 2016. Gofynnodd yr ymgynghoriad am sylwadau ar y gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys yr amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd am sylwadau hefyd ar “y ffordd fwyaf effeithiol [y gall Llywodraeth Cymru] gyflawni’r ddyletswydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn y sector cyhoeddus”. 

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad bellach wedi’i gyhoeddi.  O safbwynt hygyrchedd, gwnaed y sylwadau a ganlyn:

Dywedodd grwpiau o bobl anabl y gallai’r trefniadau cytundebol hefyd gynnwys gwella hygyrchedd. Awgrymwyd y dylid annog gweithredwyr i ystyried sut y gallant sicrhau bod pobl anabl yn gallu cyrraedd yr orsaf a chychwyn ar eu taith heb orfod trefnu ymlaen llaw i sicrhau y gallant ddefnyddio’r orsaf yn hyderus.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a’r Gororau a’r Rhaglenni Metro ar 12 Gorffennaf 2016.  Wrth amlinellu camau nesaf y broses, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at ymgynghoriad cyhoeddus pellach:

Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall. Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn nodi y bydd yn gofyn i swyddogion edrych ar welliannau posibl i’r ffordd y cyfathrebir cais i aros mewn gorsaf.

Hygyrchedd

O ran hygyrchedd, mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cynnwys cynlluniau i wella hygyrchedd o dan y “Rhaglen Mynediad i Bawb” a’r “Rhaglen Gwella Gorsafoedd”. Mae’r elfen rhaglen gwella gorsafoedd yn cyfeirio at “r[h]aglen osod mynediad hygyrch ar gyfer gorsafoedd bychain ledled Cymru i ddarparu mynediad i gadeiriau olwyn drwy ddefnyddio rampiau i drenau”.  Nid yw’r “cyfnod cyflenwi” ar gyfer y naill raglen na’r llall yn estyn y tu hwnt i 2015-16.

Fodd bynnag, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd yn amlygu’r ffaith nad yw’r seilwaith reilffyrdd wedi’i ddatganoli, ond mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn:

actively looking at designing platform raising humps to assist with low platform heights and Kidwelly would be considered with others, if budget becomes available in future years.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad ymgynghoriad ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru.  Wrth ystyried “safon a hygyrchedd” gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru, cyhoeddodd dystiolaeth ynghylch yr hyn a ddisgrifiodd fel y “catalog o broblemau a wynebir gan deithwyr anabl wrth deithio ar wasanaethau bws a thrên yng Nghymru.”. Argymhellwyd yn yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried argymhellion Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal y Trydydd Cynulliad yn ei ymgynghoriad ar effaith polisi Llywodraeth Cymru ar hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.

Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymgynghoriad ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororaua chyflwynodd adroddiad ym mis Rhagfyr 2013. Amlygodd yr adroddiad dystiolaeth yn pwysleisio pwysigrwydd hygyrchedd ar gyfer pobl gydag anableddau. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys “siarter i fasnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau” a oedd yn cynnwys argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad eang a:

seilio’r gwaith o ddatblygu llwybrau, lefelau gwasanaeth a gofynion seilwaith y dyfodol ar ddealltwriaeth fanwl o’r ffactorau economaidd gymdeithasol sy’n dylanwadu ar y llifoedd traffig rheilffordd yn ardal Masnachfraint Cymru a’r Gororau, a’r senarios o ran y farchnad bosibl a’r galw yn y dyfodol, gan gynnwys llifoedd trawsffiniol.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.